Senedd Cymru 
 Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
 HSC(6) 34 24 Papur 1
 Gwrandawiad cyn penodi: Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
 Holiadur cyn penodi
 
 Ionawr 2024

Cefndir

Rydym yn gofyn i chi lenwi’r holiadur hwn gan mai chi yw’r ymgeisydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio ar gyfer swydd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Caiff eich atebion i’r holiadur hwn eu cyhoeddi gyda’r papurau ar gyfer y gwrandawiad cyn penodi, a chânt eu defnyddio i baratoi’r Aelodau ar gyfer y gwrandawiad. Ni ddylai’r ymateb i bob cwestiwn gynnwys mwy nag oddeutu 250 o eiriau.

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

1. Beth ysgogodd chi i wneud cais i fod yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?

Dwi’n teimlo’n angerddol dros wasanaethau cyhoeddus. Neu, yn hytrach, dros geisio creu gwasanaethau cyhoeddus ardderchog a blaengar sydd yn darparu cymorth, cefnogaeth ac arweiniad i bobl Cymru. I mi, dyma ran o’r agenda i greu Cymru Decach a chyfundrefn bydd yn galluogi pobl i fyw eu bywydau i’w llawn potensial.

Mae iechyd, a’r system iechyd a gofal yn gonglfaen bwysig yn hyn o beth: mae’n cyffwrdd bywydau pob un ohonom ar adegau gwahanol o’n bywydau ac yn rhan allweddol o’r gwead cymdeithasol sydd yn cynnal ein cymunedau ledled y gogledd.

Dwi wedi byw a gweithio yn y gogledd trwy gydol fy oes. Mae aelodau o’r teulu wedi gweithio neu’n parhau i weithio i’r gwasanaeth iechyd yn lleol. Dwi wedi profi’r GIG yn uniongyrchol yn llythrennol o’r crud i’r bedd ac wedi teimlo’n ddiolchgar am y gefnogaeth bob amser.

Ond bellach mae’n deg dweud bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn tanberfformio ac yn disgyn yn fyr o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus o’r radd flaenaf. Yn wir, gyda’r Bwrdd mewn mesuaru arbennig, gellir disgrifio’r sefyllfa fel un annerbyniol ac un ble mae angen cyfeiriad newydd.

Rwyf yn gweithredu fel Cadeirydd dros dro ar gyfer y Bwrdd ar hyn o bryd a hynny yn dilyn gweithredu gan Lywodraeth Cymru fis Chwefror llynedd. Mae’r cyfnod hwn wedi bod yn heriol iawn, ond yn gyffrous ar adegau hefyd! Mae newid yn digwydd: mae diwylliant gwahanol, mae penodiadau parhaol pwysig wedi digwydd ac mae gennym dim ardderchog o Aelodau Annibynnol. Dwi’n awyddus i barhau i fod yn rhan o’r gwaith o siapio dyfodol newydd i’r Bwrdd Iechyd. Credaf fod gennyf gyfraniad i wneud fel un o arweinyddion y sefydliad. Nid yw’r cyfraniad hwnnw o reidrwydd yn well, neu’n waeth, na’r cyfraniad gall eraill wneud. Ond, o bosibl, mae’n gyfraniad sydd angen ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y cyd-destun presennol.

 

 

2. Pam yr ydych o'r farn eich bod chi’n ymgeisydd addas ar gyfer y rôl hon?

Mae gennyf gefndir ym myd Llywodraeth Leol, fel cyn-arweinydd Cyngor Gwynedd ac Aelod a llefarfydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA). Yn ogystal a hynny mae gennyf brofiad yn y byd addysg, fel cyn berchennog busnes bach ac fel gwirfoddolwr gyda chyrff trydydd sector. Mae’r profiadau yma, ynghyd a fy nghyfnod fel Cyfarwyddwr Anweithredol ar fyrddau Awdurdod Cyllid Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhoi cyfleon arbennig i mi fagu sgilau arwain priodol ar gyfer y rôl hon. Dwi wedi dysgu llawer, wedi llwyddo a methu ar adegau, ond wedi elwa o bob profiad. Mae’r rolau amrywiol dwi wedi derbyn dros y blynyddoedd wedi golygu i mi fagu dealltwriaeth eang o beth mae’n golygu i arwain corff cyhoeddus o faint arbennig, i greu newid, i gysylltu gyda phobl ac i greu llwyddiant.

Ac yr un mor bwysig, yn fy nhyb i, yw fy mod yn deall gogledd Cymru a’i phobl. Dwi wedi byw a gweithio yn y gogledd-ddwyrain a’r gogledd-orllewin, gyda chyfnod yn y canol yn ogystal! Mae hyn oll yn golygu bod gennyf gysylltiadau ar draws y gogledd ac yn gallu uniaethu gyda phobl yn eu cymunedau amrywiol. Fel defnyddiwr gwasanaethau iechyd fy hun dwi’n gwybod bod pobl yr ardaloedd yma angen ac yn haeddu’r Gwasanaeth Iechyd gorau posibl.

Dwi’n berson sydd yn cydbwyso agwedd uchelgeisiol gyda realaeth rhai sefyllfaoedd gobeithio. Ond yn berson sydd yn adnabod gwendidau ac anghenion newid. Yn ddi-os mae angen sgiliau dyfalbarhau a phenderfynol os am lwyddo yn y swydd yma. Dwi’n barod i barhau i roi popeth sydd gennyf i’r swydd ac i wasanaethu’r Bwrdd Iechyd, a Llywodraeth Cymru, hyd eithaf fy ngallu.

3. Beth yw’r tri phrif ganlyniad yr ydych am eu cyflawni yn ystod eich cyfnod yn y rôl?

I arwain Bwrdd Iechyd sydd yn arddel dysgu a gwelliant parhaus

I arwain Bwrdd Iechyd sydd yn deall ansawdd a safonau yn y cyfan o’i weithgareddau

I arwain Bwrdd Iechyd sydd a’i olwg am allan (outward facing), sydd yn ymgysylltu gyda’r cyhoedd a phartneriaid ac sy’n agored a thryloyw

4. Sut y byddwch yn gweithio gyda chyrff y GIG, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid gofal cymdeithasol?

Un o fy mlaenoriaethau ers cael fy mhenodi i swydd Cadeirydd dros dro y Bwrdd Iechyd yw i gryfhau’r cysylltiad gyda phartneriaid. Yn hyn o beth rwyf wedi cyfarfod pob Arweinydd Awurdod Lleol a’r mwyafrif o Brif Weithredwyr. Dwi wedi mynychu pwyllgorau craffu a chyfarfodydd llawn o’r Cyngor er mwyn rhoi diweddariad o sefyllfa’r Bwrdd Iechyd a chyfle i aelodau holi cwestiynau neu codi unrhyw bwyntiau. Mae angen datblygu’r berthynas yma yn fwy a ffocws ar y tir cyffredin yna o sicrhau’r cefnogaeth addas ar gyfer y dinesydd. Mae bwriad gennyf i sefydlu cyfarfodydd perthnasol a rheolaidd i gyflawni hyn. Byddaf yn parhau i fynychu cyfarfodydd o’r Bwrdd Parneriaeth Rhanbarthol gan gyflwyno adroddiadau cynnydd amserol a’r un modd cyfarfodydd gydag Archwilio Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae sefydlu perthynas adeiladol gyda’r ddau sefydliad yma wedi bod yn bwysig iawn a byddaf yn parhau i gynnal y berthynas yma i’r dyfodol.

Mae gennym, fel Bwrdd sydd mewn Mesurau Arbennig, gysylltiad agos gyda’r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Rydym wedi manteisio ar bob cyfle i drefnu ymweliadau i’r Gweinidogion gan ddangos datblygiadau a rhannu gwybodaeth. Mae’r Prif Weinidog yntau wedi cynnal trafodaethau gyda’r Prif Weithredwr a minnau. Mae parhau gyda’r cysylltiadau yma yn allweddol, felly hefyd gyda swyddoigon y Llywodraeth – yn lleol ac yn genedlaethol.

Rwyf yn chwarae rhan llawn yn y rhwydwaith o Gadeiryddion Iechyd Cymru gyfan ac yn bwriadu trefnu cyfarfodydd Bwrdd-i-Fwrdd gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru i’r dyfodol.

5. Sut y byddwch chi’n gweithio gyda grwpiau cymunedol, cleifion, y trydydd sector a rhanddeiliaid eraill?

Dwi’n awyddus i adeiladu mwy ar y gwaith o glywed llais y claf/profiad y claf yn ein gweithgareddau. Credaf fod angen i ni ystyried profiad cleifion a’u teuluoedd fel adnodd gall fod yn werthfawr i’r Bwrdd Iechyd ar ein siwrne wella. Yn hyn o beth rwyf yn awyddus I’r Bwrdd wybod mwy am brofiad cleifion yn fwy uniongyrchol gan gasglu data a gwybodaeth perthnasol ond hefyd cynnal trafodaethau gyda grwpiau penodol yn ogystal.

Mae cyfarfodydd Fforwm Partneriaeth Lleol yn rhoi cyfle i hyrwyddo’r agenda cydweithio a thrafod anghenion y gweithlu. Felly hefyd cyfarfodydd uniongyrchol gyda chynrychiolwyr Undebau Llafur lleol. Rwyf yn awyddus i adeiladu ar y gwaith yma fel bydd modd i’r staff a’r gweithlu rheng flaen ddylanwadu ar siapio ein gwasanaethau i’r dyfodol.

Rwyf wedi cydweithio gyda’r Prif Weithredwr a swyddogion eraill i drefnu rhaglen o gyfarfodydd cymunedol ledled y rhanbarth. Dyma gyfle i ymgysylltu’n uniongyrchol  gyda phobl a grwpiau cymunedol a’ trydydd sector. Dwi’n gobeithio bydd y gwaith hwn yn datblygu’n drafodaeth barhaus fel in bod yn dysgu am bryderon a gobeithion ein pobl. Mae pwyllgorau penodol o fewn y Bwrdd megis y Grwp Rhanddeiliaid Strategol a’r Pwyllgor Partneriaethau yn gyfle i hyrwyddo’r agenda trydydd sector yn ogystal, ond rwyf yn awyddus i wneud mwy gan adnabod cyfleon cydweithio a sicrhau gwell perchnogaeth o’r agenda cydweithio ymysg grwpiau cymunedol a thrydydd sector gan geisio gwireddu’r potensial amlwg sydd yn bodoli.

6. Sut y byddwch chi’n gweithio gydag Aelodau o’r Senedd a phwyllgorau’r Senedd?

Ers cael fy mhenodi fel Cadeirydd dros dro, rwyf wedi gweithio i gynnal perthynas adeiladol ac agored gyda phob Aelod o’r Senedd yn y rhanbarth.  Byddaf yn parhau i wneud hyn trwy gynnal cyfarfodydd, boed fel unigolion neu fel grwp. Rwyf yn deall pwysigrwydd gohebiaeth gan Aelodau o’r Senedd ar ran eu hetholwyr a byddaf yn parhau i hyrwyddo cyfundrefn sydd yn ymateb i hyn a bod ar gael i gynorthwyo Aelodau yn uniongyrchol yn ôl yr angen. Rwyf hefyd am gydweithio gydag Aelodau er mwyn cynnig cyfleon iddynt ymweld a gwasanaethau neu datblygiadau newydd fel bydd modd gweld unrhyw newidiadau yn uniongyrchol yn eu hetholaethau. Byddaf am geisio hyrwyddo perthynas sydd yn rhoi gwybod i Aelodau o’r Senedd am unrhyw ddatblygiadau neu broblemau y neu hetholaethau mewn ffordd ragweithiol.

Byddaf yn hapus i gydweithio gyda phwyllgorau’r Senedd i roi diweddariad ar ddatblygiad y Bwrdd Iechyd o fewn Mesurau Arbennig ac yn fodlon cydweithio gyda chadeiryddion pwyllgorau i adnabod cyfleon ar gyfer ymchwiliadau neu ymweliadau er mwyn canfod gwybodaeth berthnasol. Byddaf, wrth gwrs, yn fodlon iawn cyflwyno tystiolaeth i bwyllgorau’r Senedd ar unrhyw achlysur.

7. A ydych wedi’ch penodi mewn unrhyw rolau eraill ar hyn o bryd a allai arwain at unrhyw wrthdaro buddiannau posibl neu wrthdaro buddiannau canfyddedig? Os felly, sut ydych chi’n bwriadu rheoli’r gwrthdaro neu’r canfyddiadau hynny?

 

Ildiais fy rolau fel Cyfarwyddwr Anweithredol Awdurdod Cyllid Cymru ac Aelod Annibynnol Iechyd Cyhoeddus Cymru, dros dro, wrth ymgymryd a’r swydd fel Cadeirydd dros dro y Bwrdd Iechyd. O gael fy mhenodi I’r swydd Cadeirydd yn barhaol, buaswn yn ildio’r ddwy swydd yma.